Mae'r dyrfa fawr a aeth o'r blaen Wedi concwero heddwy'n lan, Ac adsain eu caniadau hwy Sy'n enyn cariad dwyfol mwy. O hyfryd foreu, hyfryd awr! Tywyniad tragwyddoldeb mawr, Pan yr agoro'r beddau pridd I roddi saint y nef yn rhydd. Wel dyma'r awr, a thyma'r pryd, Ceir gweld 'tifeddion nef ynghyd, Yn dechreu taith o'u carchar caeth I'r wlad sy'n llifo o fêl a llaeth. Y fan bydd terfyn ar bob gwae, A dechreu'n hir i lawenhau, Yn nheml Duw eu cartref fydd, Yn ei was'naethu nos a dydd. Newyn a syched ni ddaw mwy, Na haul na gwres i'w drygu hwy; Yr Oen a'u dwg at ddyfroedd pur, Ffynonau bywiol nefol dir. Ei hun fe sych bob deigryn mân, Odd'wrth eu llygaid hwynt yn lân; Tristwch, marwolaeth, haint, a phoen, Fyth fythol ffŷ o gwmp'ni'r Oen.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: O hyfrd foreu hyfryd awr |
The great throng that has gone ahead Has conquered today completely, And the echo of their songs Is igniting divine love evermore. O delightful morning, delightful hour! The radiance of a great eternity, When the graves of soil open For the saints of heaven to walk free. See, this is the hour, this is the time, When heaven's heirs can be seen together, Beginning a journey from their captive prison To the land that is flowing with honey and milk. The place shall be the end to all woe, And the beginning long to rejoice, In the temple of God their home shall be, Serving him night and day. Hunger and thirst shall come no more, Nor sun or heat to harm them; The Lamb shall lead them to pure waters, Lively founts of a heavenly land. He himself shall dry every small tear, From their eyes completely; Sadness, death, disease, and pain, Forever and ever shall flee from the company of the Lamb.tr. 2023 Richard B Gillion |
|